Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen

i helpu pobl i fyw bywyd iachach ac wrth wneud hynny leihau afiechydon y gellir eu hosgoi a derbyniadau diangen i’r ysbyty. Mae gofalu am bobl yn effeithiol yn golygu bod ein cymdeithas yn iachach ac yn hapusach a bod anghydraddoldebau’n cael eu lleihau’n fawr. Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn credu y dylai nyrsio fod wrth wraidd lleihau effaith afiechydon, hybu iechyd a helpu pobl i weithredu gartref, yn y gwaith ac yn eu hamser hamdden.

A wyddech chi?

Yn 2019, dim ond 47% o fenywod yng Nghymru a ddywedodd eu bod wedi bod yn weithgar am o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol. Roedd 38% o fenywod yn anweithgar (yn weithgar am lai na 30 munud yr wythnos flaenorol).

Iechyd corfforol

Mae gweithgarwch corfforol yn rhan hanfodol o fyw’n iach. Mae’n lleihau’r risg o lawer o glefydau, yn lleihau’r risg o ordewdra ac yn gwella lles meddyliol.

CAM GWEITHREDU: Hybu a buddsoddi mewn cynlluniau gweithgarwch corfforol, megis y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, cynlluniau ‘hurio’ beiciau a chynlluniau cerdded/beicio i’r gwaith. Ariannu mentrau sydd â’r nod o gynyddu niferoedd y menywod, y bobl hŷn a’r bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy’n cymryd rhan.

Iechyd rhywiol

Mae iechyd rhywiol da yn rhan o fywyd iach sy’n rhoi boddhad. Mae gwasanaethau iechyd rhywiol yn darparu gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â rhywioldeb iach, atal cenhedlu, trin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a therfynu beichiogrwydd. Yn ogystal â’r hyn sydd ar gael yn ddaearyddol, mae’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol yn cynnwys sicrhau bod pobl yn gallu cael y math cywir o wasanaeth ar yr adeg gywir. Gall fideogynadledda fod yn ddelfrydol, er enghraifft, i’r rhai sy’n llai symudol neu sy’n bryderus ynghylch cyfrinachedd.

CAM GWEITHREDU: Ei gwneud yn ofyniad statudol i ysgolion ddarparu addysg iechyd rhywiol drwy weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi eu haddysgu’n benodol i ddarparu addysg iechyd rhywiol a sicrhau bod Byrddau Iechyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd rhywiol.

Mae pandemig COVID-19 wedi achosi colled bywyd drasig a newid sut yr ydym yn byw ac yn gweithio’n barhaol. Mae nyrsys a staff nyrsio mewn cartrefi gofal, hosbisau, y gymuned ac ysbytai wedi bod yn gweithio oriau hir dan straen mawr ac wedi peryglu eu hiechyd eu hunain er mwyn amddiffyn eraill.

Mae llawer o gamau y gallwn i gyd eu cymryd megis golchi ein dwylo yn aml a chynnal pellter cymdeithasol a fydd yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddiadau cyffredin yn y gymuned. Mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithio hefyd i sicrhau bod ein gwasanaethau gofal yn barod ac yn gadarn:

CAM GWEITHREDU: Cefnogi a buddsoddi mewn cynnal rhaglen brofi, tracio ac olrhain gynhwysfawr a chefnogi rhaglen frechu ar yr adeg briodol. Buddsoddi mewn caffael a storio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yng Nghymru.

Cael gafael ar ofal iechyd

Mae gwella cyfleoedd i ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn ffordd bwysig o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Yn aml, y rhai hynny y mae angen gofal iechyd fwyaf arnynt yw’r rhai sydd lleiaf abl i gael gafael arno.

Mae angen y gallu i gael gafael ar dechnoleg fodern ar ein gwasanaethau gofal iechyd. Pe gellid gwneud apwyntiadau ymgynghorol neu arbenigol drwy fideo er enghraifft, byddai hynny’n gwella cyfleodd yn sylweddol i bobl mewn ardaloedd gwledig gael gafael ar ofal iechyd. Mae gallu’r cyhoedd i gael gafael ar fand eang yn hanfodol hefyd. Dim ond 29 y cant o’r cartrefi a’r busnesau yng Nghymru oedd yn gallu cael cysylltiad band eang gwibgyswllt sefydlog ym mis Medi 2018. Mae hyn yn llawer is na chyfradd y DU o 49 y cant.

Mae angen buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus er mwyn gwella cyfleoedd i gael gafael ar ofal iechyd. Mae amlder gwasanaethau a’u glendid yn broblem yn aml. Ceir problemau enfawr hefyd oherwydd nad yw cludiant cyhoeddus yn hygyrch i bobl hŷn, y rhai sydd ag anawsterau symudedd na’r rhai sy’n hebrwng plant mewn coetsh – y ddau grŵp sydd fwyaf tebygol o fod angen defnyddio cludiant cyhoeddus!

A wyddech chi?

Yn awdurdodau lleol Cymru, roedd cyflymderau lawrlwytho cyfartalog yn amrywio o 24.5 Mbit/eiliad ym Mhowys i 61.0 Mbit/eiliad yng Nghaerdydd.

A wyddech chi?

Yn y canolbarth, ceir dros 48,000 o gleifion cofrestredig y byddai’n rhaid iddynt deithio am fwy na thri deg munud i fynd i apwyntiad meddyg teulu a dychwelyd adref.

CAM GWEITHREDU: Creu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio band eang cyhoeddus a buddsoddi mewn technoleg cyfathrebu ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd. Gwella’r gallu i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, amlder eu defnydd a’u glendid.

Yr holl newyddion diweddaraf gan RCN Cymru

Rhagor o wybodaeth